Seilwaith Ymchwil ar gyfer Llifogydd a Sychder (FDRI)

Rhaglen hirdymor arloesol a fydd, am y tro cyntaf yn y DU, yn monitro’r system hydrolegol gyfan, er mwyn gwella’r gallu i ymateb i lifogydd a sychder.

Bydd yr FDRI yn datblygu ein dealltwriaeth o sut, pryd a ble mae llifogydd a sychder yn digwydd, gan olygu y gellir rhagweld digwyddiadau yn well, cynnal asesiadau cadarn o’r effeithiau, a rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y DU yn parhau i chwarae rhan flaenllaw mewn gwaith ymchwil ac arloesi ym maes hydroleg, gan ysgogi datrysiadau byd-eang.

Bydd y prosiect £38 miliwn yn sefydlu Seilwaith Ymchwil cenedlaethol ar gyfer Llifogydd a Sychder, gan gynnig data bron mewn amser real i'r gymuned hydrolegol. Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, a bydd yn defnyddio offer ar gyfer arsylwi amgylchedd ein dyfroedd – gan fesur anwedd dŵr, lleithder y pridd, tywydd, dŵr daear a llif afonydd.

 

Gan weithio gyda phartneriaid a grwpiau ar draws y DU, bydd y prosiect hwn yn gatalydd i arloesedd, gan ddarparu datrysiadau digidol newydd i gefnogi data, gan gynnwys darganfod, sicrhau mynediad ac integreiddio, a bydd yn helpu i feithrin gallu yn y gymuned hydrolegol drwy hyfforddiant a thrwy rannu sgiliau.

Image
arial drone photo of Allerton Bywater in West Yorkshire showing flooded fields and farm

Pam y mae Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) yn buddsoddi yn FDRI?

Mae llifogydd a sychder yn esgor ar effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol, a rhagwelir y byddant yn cynyddu o ran dwyster, amlder a hyd yn sgil newid hinsawdd a gweithgareddau gan bobl. Nid fu erioed cymaint o angen dybryd am wyddoniaeth newydd i fod yn sail i baratoadau a gwydnwch y DU i wrthsefyll y digwyddiadau eithafol hyn.

Heb fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith hydrolegol, a hynny ar lefel system-gyfan, cyfyngedig fydd y dystiolaeth i gefnogi gwydnwch y DU i wrthsefyll achosion cynyddol ddwys ac aml o lifogydd a sychder, a bydd y costau a'r difrod i gymdeithas a'r amgylchedd yn cynyddu.

Nod y seilwaith arwyddocaol hwn yw diwallu’r angen hwnnw, a chefnogi'r gymuned hydrolegol i greu datrysiadau.

 

Pa effaith fydd FDRI yn ei chael?

Cydweithio

Bydd FDRI yn hwyluso'r wyddoniaeth hydrolegol a'r arloesedd sydd eu hangen i wneud y wlad yn fwy hyblyg a gwydn wrth ymateb i lifogydd a sychder. Mae'r prosiect yn gofyn am waith ymchwil trawsddisgyblaethol a chydweithio traws-sector, ac mae hyn yn cael ei gyflawni gan arbenigwyr o sefydliadau ymchwil blaenllaw ledled y DU. Mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) yn arwain y gwaith o weithredu FDRI gyda phartneriaid - Coleg Imperial Llundain, Prifysgol Bryste ac Arolwg Daearegol Prydain – a bydd yn gyfrifol am barhau i weithredu’r seilwaith.

Hoffech chi fod yn rhan o waith FDRI?

Ydych chi'n hydrolegydd, neu'n rhywun sy'n defnyddio data hydrolegol, neu'n gweithio yn creu technolegau newydd a datrysiadau arloesol? Os ydych chi, byddem wrth ein bodd yn eich cynnwys yn y prosiect. Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at FDRI@ceh.ac.uk i drafod cyfleoedd.

Gwybodaeth gyffredinol:
Mae cyfraniad y gymuned hydrolegol i’r prosiect yn hollbwysig. Dyma eich cyfle i ddod yn rhan o rwydwaith cydweithredol, dylanwadol. Bydd eich cyfranogiad yn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth glir o ystod ac amrywiaeth o safbwyntiau a blaenoriaethau ar draws y gymuned, a byddwch yn llywio canlyniadau’r prosiect. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am FDRI, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr e-bost.