Bydd FDRI yn cynnwys rhwydwaith o sawl basn ag offer dadansoddi a monitro sy'n darparu data sy'n berthnasol yn genedlaethol, gan gynnwys offer symudol a fydd yn diwallu anghenion gwyddoniaeth ar draws y DU gyfan. Bydd y rhwydwaith yn ein galluogi i wneud arsylwadau penodol o ran mewnbwn dŵr, symudiad dŵr a storio dŵr mewn tri basn afon gydag offer symudol ar gael i'w ddefnyddio ar draws y DU. Bydd datrysiadau digidol yn darparu sylfaen i'r seilwaith arsylwi ac yn hwyluso'r modd y defnyddir data.

FDRI – dewis lleoliad ar gyfer sefydlu seilwaith sefydlog


Location of FDRI observatory catchments

Y tri dalgylch lle bydd seilwaith FDRI sefydlog yn cael ei sefydlu fydd Chess (oren ar y map) yn Lloegr, ardal Hafren Uchaf (porffor ar y map) yng Nghymru a Tweed Uchaf (glas ar y map) yn yr Alban.

Pryd fyddwn ni ar y safle?  

Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd â’r gwaith o adnabod nodweddion dalgylchoedd ac yn asesu addasrwydd ystod o safleoedd i sicrhau bod offer FDRI yn cael ei osod yn y lleoliadau mwyaf addas i ddiwallu anghenion gwyddoniaeth gan roi sylw i ystyriaethau ymarferol.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bob cymuned a rhanddeiliad wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.

Pryd y bydd yr offer symudol ar gael? 

Dros y ddwy flynedd nesaf (2024-25) byddwn yn dewis offer ar gyfer cynnal gwaith hydrolegol ac arolygu symudol yn unrhyw lefydd yn y DU. Bydd yr offer hwn ar gael i'w fenthyg ar gyfer monitro dalgylchoedd ac ar gyfer cynnal arbrofion.

Modelau canfyddiadol

Rydym wedi datblygu modelau canfyddiadol ar gyfer pob un o’r tri dalgylch i helpu i adnabod bylchau mewn gwybodaeth er mwyn penderfynu pa offer sydd ei angen a ble y caiff yr offer hwnnw ei leoli.

Rydym wedi edrych ar ba fesuryddion a gorsafoedd monitro sydd eisoes ar gael yn y dalgylchoedd ac wedi ystyried prif elfennau'r cydbwysedd dŵr ym mhob dalgylch. Bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o bob dalgylch ac yn nodi beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer FDRI dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau yn ystod haf 2024.

Yr amserlen ar gyfer sefydlu safleoedd FDRI

  • Haf 2024: Datblygu modelau canfyddiadol
  • Hydref 2024: Arbrofi yn y labordy; dechrau arolygon yn adnabod nodweddion dalgylchoedd; datblygu dyluniad o samplau dalgylchoedd 
  • Gwanwyn 2025: Profion awyr agored ar lefel system sefydlog lawn yn Wallingford
  • Haf 2025: Sefydlu’r safle cyntaf
  • Hydref 2025: Y twll turio cyntaf; gosod yr offer monitro afon cyntaf
  • 2026 - 2027: Parhau gyda’r gwaith o sefydlu gorsafoedd yn Tweed a Hafren Uchaf
  • 2027: Offer symudol ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer gwaith maes
  • 2028: Gosod a chomisiynu tyrrau coedwig; gosod a chomisiynu bwi cronfeydd dŵr; hyfforddiant ar ymateb i ddigwyddiadau 
  • Gwanwyn 2029: Barod i weithredu

 

Cymerwch ran

Os hoffech ddod yn rhan o'n rhwydwaith cydweithredol, a gweithio gydag arsyllfeydd FDRI yn y dyfodol, cofrestrwch isod. Pan fydd y safleoedd yn weithredol, byddwn yn cysylltu â chi. Os oes gennych dir hygyrch yn un o ddalgylchoedd FDRI lle gallem leoli rhywfaint o’n hoffer, mae croeso i chi gysylltu â ni.